Gwasanaeth
Trafnidiaeth Gymunedol a Mynediad Gwledig

Mae trafnidiaeth gymunedol yn fwy na mater o fynd o A i B — mae’n wasanaeth hollbwysig ar gyfer pobl sydd wedi’u hynysu, ar incymau isel, neu sy’n cael anawster i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. I lawer, yn enwedig felly yng nghefn gwlad Cymru, dyma’r allwedd i aros yn annibynnol, yn gysylltiedig, ac yn iach.
Mae’r dudalen hon yn cynnig offerynnau ymarferol, adnoddau, ac astudiaethau enghreifftiol i helpu gwella gwasanaethau trafnidiaeth gymunedol — yn enwedig felly yn ystod yr argyfwng costau byw parhaus. Fe welwch ddolenni i fudiadau defnyddiol, canllawiau, a syniadau y gallwch eu haddasu i roi gwell cefnogaeth i bobl leol sy’n dibynnu ar y gwasanaethau hanfodol hyn.
Adnoddau i Gynghorau
- Awaiting information
Cysylltwch â’r tîm yn [email protected] os hoffech inni ddanfon copïau atoch o unrhyw un o’r adnoddau a drafodwyd yn y recordiadau.
Cyfeirio at Gymorth – Ble i Gyfeirio Pobl Leol
- Dolen Teifi – Trafnidiaeth Gymunedol (Ceredigion & Sir Gaerfyrddin)
- Trafnidiaeth Gymunedol Y Trallwng – Tocynnau & Gwasanaethau Tacsi
- Teithio Cymunedol Sir y Fflint (Ring & Ride, Fflecsi)
- PACTO – Cynlluniau Trafnidiaeth Sir Benfro
- Cymdeithas Trafnidiaeth Gymunedol – Cwestiynau Mwyaf Cyffredin & Chysylltiadau
Beth All Cynghorau Wneud
- Cefnogi mentrau trafnidiaeth gymunedol fel rhaglenni rhannu ceir, gwasanaethau bws mini, neu rwydweithiau gyrwyr gwirfoddol.
- Partneru gyda chynghorau cyfagos ar gynlluniau trafnidiaeth ar y cyd.
- Codi ymwybyddiaeth o wasanaethau sy’n helpu pobl i gyrraedd ysbytai neu apwyntiadau pwysig.
- Helpu mudiadau i gael gafael ar gyllid a helpu pobl i elwa o gynlluniau fel tocynnau tacsi neu Olwynion i’r Gwaith.
- Edrych ar gyfleoedd ar gyfer cerbydau trydan, rhannu ceir, a chynlluniau amgen cynaliadwy.
- Gwneud cais am grantiau a chynorthwyo elusennau trafnidiaeth lleol.
- Defnyddio cylchlythyron, gwefannau, a chyfryngau cymdeithasol i rannu diweddariadau ac arolygon ar drafnidiaeth.
- Asesu trafnidiaeth leol yn rheolaidd – adnabod cryfderau, bylchau, a meysydd i’w gwella.
- Ymgysylltu â’r gymuned – ac ymgyynghori â phobl a grwpiau lleol i ddeall anghenion trafnidiaeth ac amlygu’r adnoddau sydd ar gael yn barod.
- Cynnwys trafnidiaeth yn eich Cynllun Bro, a rhoi sylw i gysylltedd a llesiant.
- Arbrofi syniadau newydd a threialu prosiectau graddfa fechan fel bws gymunedol neu gynllun rhannu cerbydau i weld a ydynt yn ymarferol.
Enghreifftiau o Gymru:
- Mae Cyngor Cymuned Llandeilo Ferwallt yn darparu gwasanaeth trafnidiaeth gymunedol i helpu pobl leol, ac yn enwedig y rhai heb ddefnydd o gar, i gyrraedd gwasanaethau a gweithgareddau hanfodol.
Gwybodaeth am Ariannu & Chyfleoedd Posib
Local councils and community groups can access a range of funding sources to support transport and mobility projects. Explore the options below to find the best fit for your initiative:
- Cyngor Ariannol gan y CTA – Canllawiau gan y CTA ar chwilio am a gwneud cais am gyllid ar gyfer trafnidiaeth gynaliadwy.
- Cyllid Cymru – Cronfa ddata chwilio am gyllid ar gyfer mudiadau yng Nghymru, gan gynnwys grantiau cymunedol a thrafnidiaeth.
- Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol – Mae’n cefnogi prosiectau sy’n cryfhau llesiant cymunedol ac yn galluogi mwy o bobl i dderbyn gwasanaethau.
- Grantiau Sefydliad Motability – Grantiau ar gyfer mudiadau sy’n helpu pobl anabl i ddod o hyd i atebion symudedd a thrafnidiaeth hygyrch.
- Cylchlythyr Grantiau a Chyfleoedd Ariannu
Cysylltwch
Eisiau rhannu beth mae eich cyngor yn wneud neu ofyn am gefnogaeth?
Ebost: [email protected]
Ymunwch â’r Sgwrs: Argyfwng Costau Byw – Grŵp Facebook