Y Tîm Bioamrywiaeth - Un Llais Cymru
Mynd i'r cynnwys

Y Tîm Bioamrywiaeth

Mae’r Tîm Bioamrywiaeth Un Llais Cymru yma i helpu Cynghorau Cymuned a Thref efo pob agwedd o fioamrywiaeth.

Rachel Carter fydd yn rheoli’r rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, gan gynnig cefnogaeth a chyngor penodol i Gynghorau yn y siroedd canlynol fel Swyddog Bioamrywiaeth De Cymru:

  • Sir Fynwy
  • Casnewydd
  • Caerdydd
  • Blaenau Gwent
  • Torfaen
  • Merthyr Tudful
  • Rhondda Cynon Tâf
  • Bro Morgannwg
  • Pen-y-bont ar Ogwr
  • Castell-nedd Port Talbot
  • Abertawe
  • Sir Caerfyrddin
  • Sir Benfro

Sam Langdon yw ein Swyddog Bioamrywiaeth newydd ar gyfer Gogledd Cymru a bydd yn cynnig cefnogaeth a chyngor i bob Cyngor yn y siroedd canlynol:

  • Sir y Fflint
  • Wrecsam
  • Sir Ddinbych
  • Conwy
  • Ynys Môn
  • Gwynedd

Bydd pa Swyddog sy’n cynrychiolu Cynghorau Cymuned a Thref yng Ngheredigion a Phowys yn dibynnu ar y lleoliad.

Gallwch gysylltu efo’r ddau ohonom yn hawdd ar un e-bost: [email protected]

Mae’r tîm wedi’u hariannu gan Lywodraeth Cymru trwy’r rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur sy’n anelu i greu ‘Natur ar garreg eich drws’.