Lyn Cadwallader - Un Llais Cymru
Mynd i'r cynnwys

Mae gan Lyn gyfrifoldeb ariannol a gweithredol am redeg Un Llais Cymru fel y corff cynrychioliadol cenedlaethol ar gyfer Cynghorau Cymuned a Thref yng Nghymru.

Cyn dechrau yn ei swydd bresennol roedd ganddo 19 mlynedd o brofiad o lywodraeth leol a’r sector tai yn Ne-ddwyrain Cymru.

Mae Lyn wedi graddio mewn Daearyddiaeth ac mae ganddo gymwysterau graddedig mewn Tai, Gweinyddu Busnes ac Arweinyddiaeth.

Mae’n aelod o’r Sefydliad Tai Siartredig.

Mae wedi cyflawni amrywiaeth o rolau ar gyrff Cynghori Llywodraeth Cymru ers ymuno ag Un Llais Cymru gan gynnwys Bwrdd Cynghori Ystadau Cymru, Panel Cynghori Natur a Ni Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bwrdd Cynghori Technegol Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, Grŵp Gweithredu Gweinidogol ar Adfywio Canol Trefi, Gweithgor Adran 6 Deddf yr Amgylchedd, Fforwm Cydnerthedd Cymunedol Cymru, Bwrdd Cynghori Amrywiaeth mewn Democratiaeth, Fforwm Cynghori Digidol y Gweinidog ar Heneiddio ac yn fwy diweddar Grŵp Cynghori Iechyd Cymuned a Thref.

Mae Lyn yn aelod o Fwrdd Ymgynghorol WISERD ac yn gyn-Gadeirydd Panel Cist Gymunedol Sir Fynwy (SPORTLOT). Mae’n aelod o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac Ymddiriedolaeth Natur Gwent.