Cymru i nodi 60 mlynedd ers trychineb Aberfan - Un Llais Cymru
Mynd i'r cynnwys

Cymru i nodi 60 mlynedd ers trychineb Aberfan

Ar 21 Hydref, bydd Prif Weinidog Cymru yn arwain y genedl mewn moment o fyfyrio i nodi 60 mlynedd ers trychineb Aberfan.

Bydd Rhun ap Iorwerth yn bresennol yn y digwyddiad swyddogol i gofio yn Aberfan, lleoliad cwymp trasig tomen sborion glo a wnaeth ladd 144 o bobl, gan gynnwys 116 o blant, ym 1966. Bydd y Dirprwy Brif Weinidog Sioned Williams AS, Ymddiriedolwyr Aberfan a chynrychiolwyr eraill o’r gymuned yn ymuno ag ef yn y digwyddiad.

Cafodd sefydliadau ym mhob cwr o Gymru eu gwahodd gan y Prif Weinidog i ystyried cynnal munud o dawelwch am 9.15am, i nodi’r drychineb.

Mae rhagor o fanylion ar gael yma.