Y Gwahaniaeth y mae Cynghorau Cymuned a Thref yn ei Wneud ledled Cymru
Mae Asesiad Effaith Gymdeithasol annibynnol newydd, a gomisiynwyd gan Un Llais Cymru ac a gynhaliwyd gan Wavehill, wedi mesur y cyfraniad y mae Cynghorau Cymuned a Thref yn ei wneud i gymunedau ledled Cymru.
Mae’r canfyddiadau’n dangos bod ymyriadau lleol bach yn creu gwerth cymdeithasol sylweddol, ac yn aml yn cael eu cyflawni gyda nifer bach iawn o staff a chyllidebau cymedrol.

Dyma gopi o’r Asesiad Effaith Gymdeithasol.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalennau gwe ynghylch yr Argyfwng Costau Byw.