Cefnogi adeiladu cymuned o achubwyr bywyd
Fel cynghorwyr, rydych chi’n chwarae rôl bwysig wrth helpu i greu cymunedau mwy diogel a iach.
Gofynnwn i chi annogi eich cymuned, ysgolion cynradd, grwpiau cymunedol a sefydliadau lleol i gymryd rhan yn Restart a Heart Live 2026 – digwyddiad codi ymwybyddiaeth CPR, am ddim, ledled y DU ar ddydd Iau 1 Hydref 2026.

Mae Restart a Heart Live yn anelu at roi hyder i bobl o bob oed i weithredu mewn argyfwng cardiaidd. Gall cyfranogwyr ymuno â sesiynau ar-lein am ddim i ddysgu hanfodion CPR mewn ffordd ddiddorol ac hygyrch.
Bydd sesiynau neilltuol ar gael i ysgolion cynradd yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Bob blwyddyn, mae mwy na 40,000 o bobl yn profi ataliad y galon y tu allan i’r ysbyty yn y DU, a gall CPR a diffibrilio cynnar ddwblu y siawns o oroesi.
Trwy helpu codi ymwybyddiaeth yn lleol, gallwch gefnogi eich cymuned i ennill sgiliau a allai achub bywyd un diwrnod.
Darganfyddwch fwy a chofrestru yn www.restartaheart.live. Fe allwch gofrestru drwy’r Gymraeg ar yr un ddolen.