Gwasanaeth
Cymunedau Cyfeillgar i Oed
Adroddiad ar bobl hŷn mewn tlodi yng Nghymru – a gyhoeddwyd ar 24 Tachwedd 2025
Rwy’n falch o allu rhannu copi o’m hadroddiad diweddaraf – Pobl hŷn mewn tlodi yng Nghymru – sydd wedi cael ei gyhoeddi heddiw:
Lawrlwythwch eich copi o Pobl Hŷn mewn Tlodi yng Nghymru
Mae’r adroddiad yn edrych ar hyd a lled ac effaith tlodi ymysg pobl hŷn yng Nghymru heddiw ac yn galw am amrywiaeth o gamau gweithredu i roi mwy o gymorth i unigolion sy’n cael trafferthion ariannol. Mae’r adroddiad yn defnyddio geiriau pobl hŷn eu hunain, a gasglwyd drwy ymchwil ac ymgysylltu, i dynnu sylw at realiti tlodi yn nes ymlaen mewn bywyd. Mae hefyd yn defnyddio’r data a’r ystadegau diweddaraf sydd ar gael i ddangos pam mae mynd i’r afael â’r broblem hirsefydlog hon mor bwysig er mwyn atal niwed sylweddol i bobl hŷn ac i gymdeithas drwyddi draw.
Mae’r adroddiad nid yn unig yn disgrifio costau personol byw mewn tlodi, o ran y canlyniadau i iechyd, i lesiant ac i annibyniaeth pobl, ond mae hefyd yn tynnu sylw at gostau ehangach delio â materion sy’n codi o ganlyniad i dlodi, yr amcangyfrifir eu bod yn ddegau o filiynau yma yng Nghymru – arian y gellid ei wario’n llawer mwy effeithiol i drawsnewid gwasanaethau cyhoeddus a chymunedau.
Rwy’n galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gyflawni amrywiaeth o gamau gweithredu i sicrhau bod pobl hŷn sy’n byw mewn tlodi yn cael eu cefnogi’n well, gan gynnwys:
Mynd i’r afael ag ‘ymyl y dibyn’ y Credyd Pensiwn, sy’n golygu bod pobl sydd ag incwm ychydig o bunnoedd dros y trothwy cymhwyso yn colli allan ar gymorth a allai fod werth miloedd o bunnoedd.
Sefydlu Cronfa Wydnwch newydd i bobl hŷn sy’n wynebu caledi ariannol difrifol nad ydynt yn gymwys i gael mathau eraill o gymorth fel Credyd Pensiwn.
Buddsoddi rhagor mewn effeithlonrwydd ynni i leihau’r niwed sy’n cael ei achosi gan dlodi tanwydd.
Rhoi cyllid i awdurdodau lleol er mwyn iddyn nhw allu mynd ati’n rhagweithiol i ddod o hyd i bobl hŷn a allai fod yn colli allan ar gymorth ariannol a’u hannog a’u cefnogi i hawlio’r hyn mae ganddynt hawl iddo.
Symleiddio’r broses ymgeisio, gan ganolbwyntio’n benodol ar fynd i’r afael â’r stigma sy’n aml yn gysylltiedig â hawliadau ariannol.
Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys argymhellion i awdurdodau lleol, i gwmnïau cyfleustodau ac i ddarparwyr gwasanaethau rhyngrwyd, sy’n canolbwyntio ar gynyddu’r cymorth sydd ar gael i bobl hŷn drwy ehangu cynlluniau sydd eisoes yn bodoli (fel tariffau cymdeithasol) ac adeiladu ar arferion da eraill yn y gymuned.
Yn y tymor hirach, rwyf hefyd eisiau gweld camau gweithredu i archwilio ac i sefydlu pa lefel o incwm sydd ei hangen ar gyfer ymddeoliad urddasol sy’n galluogi pobl i fyw ac i heneiddio’n dda. Dylid defnyddio hyn wedyn fel sail i greu system bensiwn gynaliadwy sy’n gwarantu incwm ymddeol digonol.
Fel y cytunwch rwy’n siŵr, mae cynnydd yn erbyn yr argymhellion yn fy adroddiad yn hanfodol ac rwy’n gobeithio y bydd hyn yn rhywbeth y byddwch yn gallu ei gefnogi drwy eich gwaith. Os hoffech chi drafod unrhyw agwedd ar yr adroddiad neu fy ngalwadau am weithredu, cysylltwch â’m Harweinydd Polisi ac Ymarfer, Sion Wyn Evans – [email protected]
Fel Comisiynydd, byddaf yn parhau i ddadlau’r achos dros gamau gweithredu pendant, cydgysylltiedig ar lefel genedlaethol a lleol i fynd i’r afael â thlodi, wedi’i ategu gan dystiolaeth bwerus sy’n seiliedig ar brofiadau bywyd pobl hŷn, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chi i helpu i greu Cymru decach, iachach a mwy cynhwysol.
Cofion gorau,
Rhian Bowen-Davies
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Mae Un Llais Cymru yn annog Cynghorau i gymryd rhan mewn gweithgareddau Cymunedau sy’n Gyfeillgar i Oed, ymgynghoriadau, gweminarau a chyfarfodydd ar-lein yr ydym yn eu trefnu ar y cyd â phartneriaid allweddol.
Ymunwch â Ni
Llywodraeth Cymruelsh & Un Llais Cymru Blasu & Dysgu (Ar-lein)
Dydd Mawrth 24ain o Fawrth
12:30pm | ⏱ 30–45 munud (yn cynnwys cyfle i holi cwestiynau)
Ar-lein (Microsoft Teams)
Cafodd Cymru o blaid pobl hŷn: ein strategaeth ar gyfer cymdeithas sy’n heneiddio ei gyhoeddi yn 2021 ac mae’n ystyried yr ystod eang o ffactorau sy’n dylanwadu ar sut rydym yn heneiddio – o systemau iechyd, gofal cymdeithasol a thrafnidiaeth i’r ffordd rydym yn cymdeithasu, yn gweithio ac yn gofalu am eraill. Mae’n mabwysiadu dull sy’n seiliedig ar hawliau sy’n rhoi lleisiau pobl hŷn wrth wraidd polisi a chynllunio ac yn herio syniadau cyffredin am bobl hŷn a heneiddio.
Ers 2021, mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £50,000 y flwyddyn, i bob awdurdod lleol i hyrwyddo Cymru sy’n gyfeillgar i oedran a gweithio tuag at ennill aelodaeth o Rwydwaith Byd-eang Dinasoedd a Chymunedau sy’n gyfeillgar i oedran Sefydliad Iechyd y Byd. Mae gwerthusiad o effaith y gwaith hwn wedi’i gwblhau yn ddiweddar a bydd yn cael ei rannu cyn y cyfarfod.
Bydd y sesiwn hon yn cael ei chyflwyno gan Rachel Lewis, Pennaeth Hawliau Pobl Hŷn Llywodraeth Cymru a chynrychiolydd o Gyngor Sir Ynys Môn. Bydd hwn yn gyfle i ddysgu am y gwaith sy’n cael ei gyflawni er mwyn creu Cymru sy’n gyfeillgar i oedran ac ystyried sut y gall cydweithredu cryfach ag awdurdodau lleol a chynghorwyr helpu i gyflawni’r weledigaeth hon.
Rydyn ni’n gobeithio eich croesawu chi i’r digwyddiad. Os hoffech chi ymuno â ni, cliciwch ar y ddolen Teams isod.
Ymunwch â ni:
Llywodraeth Cymruelsh & Un Llais Cymru Blasu & Dysgu- Dydd Mawrth 24ain o Fawrth
Os hoffech fynychu, anfonwch e-bost gyda’ch enw, enw eich cyngor, a’ch cyfeiriad e-bost cyswllt at [email protected] i gofrestru eich diddordeb.
Gobeithiwn y gallwch ymuno â ni,
Age Cymru and Un Llais Cymru
Strategaeth Llywodraeth Cymru:
Dweud eich dweud: Arolwg cenedlaethol o brofiadau presennol pobl 50 oed a hŷn yng Nghymru
Ydych chi dros 50 oed? Rydyn ni eisiau clywed eich stori!
Eleni, rydyn ni’n lansio ein seithfed arolwg blynyddol er mwyn deall profiadau a barn pobl dros 50 oed ledled Cymru. Ers 2020, mae tua 8,000 o bobl wedi rhannu eu barn a phrofiadau gyda ni, gan rannu gwybodaeth gwerthfawr sydd wedi helpu i effeithio ar bolisïau Llywodraeth Cymru, a llunio ymgyrchoedd Age Cymru.
Mae eich llais chi yn hollbwysig – rydyn ni eisiau clywed am y pethau sy’n bwysig i chi, yn cynnwys iechyd, gofal cymdeithasol, cyflogaeth, trafnidiaeth, cyfathrebu neu arian. Bydd eich atebion chi yn helpu i wneud gwahaniaeth go iawn.
A wnewch chi gymryd rhan drwy rannu eich barn!
Sut i gwblhau ein harolwg:
- Cliciwch yma i gwblhau’r arolwg ar-lein
- Gallwch wneud cais am gopi o’r arolwg yn Gymraeg neu Saesneg drwy ffonio 029 2043 1555 a’i ddychwelyd i’n cyfeiriad rhad-bost: Age Cymru, RHADBOST RTZG-JHGC-RYJJ, Llawr Gwaelod, Tŷ Mariners, Age Cymru, Llys Trident, Heol East Moors, CAERDYDD CF24 5TD
Y dyddiad cau ar gyfer cwblhau’r arolygon yw 17 Ebrill 2026.
Os hoffech ein cynorthwyo i ymgyrchu ar unrhyw rai o’r materion a grybwyllwyd, gadewch i ni wybod.
Rydym bob amser yn ceisio gweithio’n uniongyrchol gyda phobl 50 oed a hŷn yng Nghymru i godi materion gyda’r cyfryngau, gwleidyddion, a rhanddeiliaid allweddol eraill.
Canolfan Heneiddio Gwell
Mae’r ‘Ganolfan Heneiddio’n Well’ wedi cyhoeddi llawlyfr newydd ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio mewn neu gydag awdurdodau lleol sydd eisiau deall beth sy’n gwneud lle yn gyfeillgar i oed.
Gan ddefnyddio fframwaith Sefydliad Iechyd y Byd, mae’n dangos y gorgyffwrdd rhwng gwahanol feysydd polisi a pham ei bod yn bwysig dod â rhanddeiliaid lleol a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ynghyd i wneud newid. Mae’n seiliedig ar arbenigedd academaidd, tystebau gan bobl hŷn a dysgu oddi wrth Rwydwaith Cymunedau sy’n Gyfeillgar i Oed y DU.
Ochr yn ochr â’r llawlyfr mae offeryn mapio ar gyfer lleoedd i’w defnyddio i nodi’r hyn sydd eisoes yn digwydd yn eu hardal, sut y gall rhanddeiliaid a phreswylwyr hŷn gymryd rhan, a lle gallai fod bylchau neu gyfleoedd i wneud mwy. Mae’r offeryn mapio yn ddelfrydol i’w ddefnyddio yn ystod camau cynnar gwaith sy’n gyfeillgar i oed, neu wrth adnewyddu cynllun gweithredu sy’n gyfeillgar i oed. Gellir ei lawrlwytho i’w ddefnyddio fel PDF y gellir ei olygu neu ei argraffu i’w gwblhau â llaw.
Age-friendly Communities – Mapping Tool (ar gael yn Saesneg yn unig)
Age-friendly Communities – Handbook (ar gael yn Saesneg yn unig)