Beth allai £500 helpu eich Cyngor i’w wneud? - Un Llais Cymru
Mynd i'r cynnwys

Beth allai £500 helpu eich Cyngor i’w wneud? 

Weithiau, y cyfan sydd ei angen i roi prosiect cymunedol ar ei draed yw angen lleol, syniad ymarferol a rhywfaint bach o arian.

Trwy Gynllun Grantiau Bychain Prosiect Argyfwng Costau Byw Un Llais Cymru, mae Cynghorau Cymuned a Thref llai ledled Cymru yn datblygu nifer o syniadau gwahanol i gefnogi pobl leol, o leihau costau bwyd a mynd i’r afael ag unigrwydd i helpu pobl i gael gafael ar wybodaeth ac adnoddau cymunedol.

Mae Cynllun Grantiau Bychain y Prosiect Argyfwng Costau Byw yn cynnig grantiau penodedig o £500 i Gynghorau Cymuned a Thref a chanddynt incwm blynyddol o £75,000 neu lai sydd ddim wedi trefnu gweithgareddau cefnogi costau byw yn y gorffennol.