Croeso Cynnes i’n Haelodau Newydd - Un Llais Cymru
Mynd i'r cynnwys

Croeso Cynnes i’n Haelodau Newydd

Mae Un Llais Cymru yn falch iawn o groesawu tri aelod blynyddol newydd i’n rhwydwaith cynyddol o Gynghorau ledled Cymru.

Rydym yn falch o groesawu Cyngor Cymuned Abertyleri a Llanhilledd (Dyffrynnoedd Gwent), Cyngor Tref Dinbych (Conwy/Dinbych), a Chyngor Cymuned Spital (Sir Benfro) fel yr aelodau diweddaraf i deulu Un Llais Cymru.

Mae eu haelodaeth yn cryfhau ymhellach ein llais ar y cyd a’n hymrwymiad i gefnogi a chynrychioli cynghorau cymuned a thref ledled Cymru. Edrychwn ymlaen at weithio’n agos gyda phob cyngor, rhannu arferion gorau, hyrwyddo democratiaeth leol, a helpu cymunedau i ffynnu.

Ar ran Un Llais Cymru, estynnwn groeso cynnes iawn ac edrychwn ymlaen at bartneriaeth lwyddiannus a chynhyrchiol yn y blynyddoedd i ddod. Gyda’n gilydd, gallwn barhau i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

Ewch i dudalen we ein Cyfeiriadur Aelodau i weld rhestr gyfredol o’r aelodau blynyddol presennol.

Os nad yw eich Cyngor yn aelod blynyddol o Un Llais Cymru ar hyn o bryd, ewch i’n tudalen Dod yn Aelod Gyngor neu os hoffech dysgu mwy am y Buddion Aelodaeth; neu os hoffech gael trafodaeth am aelodaeth, anfonwch e-bost atom: [email protected]