Annwyl Glerc/Gadeirydd,
02/09/2026
Cynigion ar gyfer Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2027
Gwahoddir aelod gynghorau i gyflwyno uchafswm o ddau gynnig i’w trafod yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar Ddydd Mercher 3 Chwefror 2027, y mae’n rhaid iddynt gyrraedd yn y swyddfa hon erbyn canol ddydd ar ddydd Gwener 4 Rhagfyr 2026 man pellaf i’w hystyried gan Bwyllgor Cynigion y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ddydd Gwener 11 Rhagfyr 2026.
Er mwyn i gynigion fod yn dderbyniol, mae’n rhaid bodloni’r gofynion canlynol:
Mae’n rhaid i gynnig adlewyrchu mater neu broblem genedlaethol – ni all Un Llais Cymru dderbyn cynigion sydd ond yn berthnasol i un ardal arbennig. (Gellir trafod materion lleol mewn cyfarfodydd Pwyllgorau Ardal.)
Rhaid i bob cynnig gynnwys nodyn esboniadol byr (heb fod yn fwy na 150 gair) er mwyn i’r Pwyllgor Cynigion y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ddeall yn llawn y pwyntiau sy’n cael eu gwneud.
Bydd y Pwyllgor Cynigion yn cyfarfod yng nghanol mis Rhagfyr 2026, a chaiff cynghorau wybod am benderfyniadau’r Pwyllgor. Os yw cynnig yn cael ei dderbyn ond fod y Pwyllgor yn awgrymu gwelliannau iddo, byddwn yn cysylltu â’r cyngor/cynghorau perthnasol. Bydd cyfnod o wythnos i’r cyngor naill ai dderbyn yr argymhellion neu gyflwyno fersiwn newydd. Fe fydd gan y cyngor dau wythnos naill ai i dderbyn yr argymhellion neu gyflwyno fersiwn newydd; fel arall, bydd y cynnig gyda’r gwelliant yn cael ei gyflwyno.
Os yw cynnig eich Cyngor yn cael ei dderbyn mae’n rhaid ichi ddarparu enw eich cynigydd a’ch eilydd (sy’n gorfod bod o gyngor arall) o leiaf dair wythnos cyn dyddiad y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.
Mae’n rhaid i’r cynigydd a’r eilydd fod yn bresennol yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol er mwyn i’r cynnig/cynigion allu cael eu trafod. Dylech wybod y rhoddir uchafswm o 3 munud yr un iddynt gynnig ac eilio eich cynnig.
Bydd y rhestr derfynol o gynigion a gytunwyd yn cael ei danfon at gynghorau mewn da bryd ar gyfer eu cyfarfodydd ym mis Ionawr 2027 er mwyn rhoi amser i gynghorau ystyried a ydynt am i’w cynrychiolwyr bleidleisio mewn ffordd arbennig (neu a ydynt yn fodlon iddynt benderfynu drostynt eu hunain yn dilyn y drafodaeth berthnasol).
Anfonwch eich cynigion arfaethedig drwy e-bost i:
[email protected] neu ffoniwch y swyddfa ar 01269 595400 / 07917 846510.
Yn gywir,
Mr Lyn Cadwallader
Prif Weithredwr, Un Llais Cymru