Grantiau Bach Gwyrdd - nawr ar agor - Un Llais Cymru
Mynd i'r cynnwys

Grantiau Bach Gwyrdd – nawr ar agor!

Newyddion ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru

Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi cyhoeddi rhai newidiadau cyffrous i’w rhaglenni ariannu yng Nghymru.

Grantiau Bach Gwyrdd – nawr ar agor

Mae’r Gronfa wedi lansio rhaglen newydd sbon – Grantiau Bach Gwyrdd – sy’n cynnig grantiau o £300 i £20,000 i grwpiau cymunedol yng Nghymru sydd am gymryd camau ymarferol dros yr amgylchedd.

Gallai hyn olygu pethau fel gwella gofod gwyrdd lleol, gwarchod natur, lleihau gwastraff, cysylltu pobl â’r amgylchedd, cefnogi gwytnwch hinsawdd, neu helpu i greu cymuned fwy gwyrdd ac iach. Mae’n agored i unrhyw grŵp cymunedol sydd â syniad ymarferol – nid sefydliadau amgylcheddol yn unig.

Yn bwysig, gall grwpiau dderbyn grant Grantiau Bach Gwyrdd ar yr un pryd â grant Arian i Bawb Y Loteri Genedlaethol.

Darllenwch mwy am ein rhaglen ar wefan y Gronfa.

Camau Cynaliadwy Cymru – Rhaglen Egin – grantiau mwy ar gael nawr

Mae’r uchafswm grant drwy Egin, y rhaglen mentora amgylcheddol, wedi mwy na dyblu – o £15,000 i £35,000 – o 22 Gorffennaf. Ochr yn ochr â’r grant, mae sefydliadau ar raglen Egin yn derbyn mentora wedi’i bersonoli i’w helpu i adeiladu’r sgiliau a’r wybodaeth ar gyfer newid amgylcheddol parhaol.

Darllenwch mwy am y rhaglen ar wefan y Gronfa.

Pawb a’i Le – grantiau mwy o 9 Medi 2026

O’r 9 Medi, mae’r uchafswm grant canolig yn codi o £100,000 i £150,000, ac mae’r uchafswm grant mawr yn codi o £500,000 i £700,000. Os ydych chi’n ystyried gwneud cais, siaradwch â thîm y Gronfa yn gyntaf i drafod y swm mwyaf priodol.

Bydd ceisiadau gweithredol sy’n cael eu hasesu ar hyn o bryd yn cael eu hystyried o dan y meini prawf presennol. Bydd angen i sefydliadau sydd â chais gweithredol sy’n dymuno gwneud cais am swm uwch dynnu’n ôl ac ailgyflwyno ar neu ar ôl 9 Medi. Mae’r Gronfa eisiau gwneud y broses mor hawdd â phosibl, felly maen nhw’n annog sefydliadau i siarad â’u Swyddog Ariannu a fydd yn eu cefnogi drwy’r broses. 

Darllenwch mwy am y rhaglen ar wefan y Gronfa.

Cysylltu â’r Gronfa

Mae tîm y Gronfa yng Nghymru ar gael i helpu unrhyw un i ddatblygu syniad neu ddod o hyd i’r rhaglen gywir ar eu cyfer. Os hoffech ddarganfod mwy neu siarad am syniad ariannu, cysylltwch â nhw’n uniongyrchol.

Siaradwch â ni: 0300 123 0735 (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm)

E-bost: [email protected]

Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn sefydliad dwyieithog ac yn falch o ddarparu gwasanaeth llawn yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Gwefan a chylchlythyr Deiliaid Grantiau

Os ydych chi’n ddeiliad grant Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ac nad ydych wedi cofrestru ar gyfer eu cylchlythyr, ystyriwch wneud hynny. Mae’r Gronfa yn defnyddio cylchlythyrau deiliaid grant i gyfathrebu gwybodaeth bwysig i ddeiliaid grant, gan gynnwys diweddariadau ar raglenni ariannu. Gallwch gofrestru ar eu gwefan. 

Mae’r holl grantiau sydd ar gael yng Nghymru wedi’u rhestru ar wefan y Gronfa.