Gweminar ar gyllid ynni y DU - Ynni Cymunedol Cymru - Un Llais Cymru
Mynd i'r cynnwys

Gweminar ar gyllid ynni y DU – Ynni Cymunedol Cymru

Ydych chi’n pendroni a allai eich Cyngor Cymuned neu Dref gael gafael ar gyllid ar gyfer prosiect ynni gwyrdd drwy Gynllun Ynni Llywodraeth y DU? A pha fanteision y gallai hynny eu cynnig i’ch ardal?

Mae Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru (WGES), gyda chefnogaeth Ynni Cymunedol Cymru (CEW), yn cynnal gweminar am ddim ddydd Iau 15 Hydref rhwng 12.00 a 13.15.

Mae Cronfa Gymunedol GB Energy, sydd werth £20 miliwn, ar agor ar hyn o bryd i geisiadau o Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon – ac mae Cynghorau Cymuned a Thref yng Nghymru yn gymwys i wneud cais.

Yng Nghymru, darperir cymorth i sefydliadau sy’n dymuno gwneud cais gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau i’r gronfa yw dydd Iau 12 Tachwedd am 11.55yh.

I’r rhai nad ydynt yn barod i wneud cais am gyllid, neu sydd newydd ddechrau ystyried beth allai prosiect ynni cymunedol ei wneud i’w hardal, bydd Y Wasanaeth Ynni ac Ynni Cymunedol Cymru hefyd yn trafod y mathau eraill o gymorth a chyllid sydd ar gael yng Nghymru.

Cofrestrwch ar gyfer eich lle yn y weminar am ddim yma.