LANSIO ADDUNED UN LLAIS CYMRU AR CWRTEISI A PARCH - Un Llais Cymru
Mynd i'r cynnwys

Annwyl Gadeirydd/Clerc,

Mae cwrteisi yn golygu bod yn foesol ac yn ystyriol o ran ymddygiad, lleferydd ac ysgrifennu, ac mae’r rhain yn elfennau sylfaenol i lwyddiant cynghorau yng Nghymru. Enghreifftiau o ffyrdd o ddangos parch yw gwrando a rhoi sylw i eraill, ystyried teimladau pobl eraill, dilyn protocolau a rheolau, dangos gwerthfawrogiad a diolch, a bod yn garedig wrth ein gilydd.

Cydnabyddir bod diwylliant sy’n seiliedig ar y gwerthoedd hanfodol hyn yn nodwedd o waith llawer o gynghorau, ond mae’n hysbys nad yw hyn yn wir ym mhob achos. Mae hyn yn amlwg drwy’r nifer uchel o gwynion a gyflwynir i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, cwynion ffurfiol gan weithwyr i gynghorau, a’r amser gwaith a gollir oherwydd salwch sy’n gysylltiedig â straen yn y gweithle.

Mae’r adduned cwrteisi a pharch yn nodi nifer o ymrwymiadau pwysig sydd wedi’u cynllunio i greu amgylchedd sy’n hwyluso gweithio effeithiol, gan osgoi llawer o’r materion a all effeithio’n andwyol ar berfformiad cyffredinol cynghorau.

Mae’n hollbwysig bod ymrwymo’r cyngor i safonau uchel o ymddygiad drwy gwblhau a llofnodi’r adduned yn cael effaith barhaol. Argymhellir yn gryf y dylid rhoi lle amlwg i’r broses ar agenda’r cyngor, o bosibl gyda sylw yn y cyfryngau yn dilyn hynny. Awgrymir hefyd y gellid fframio a dangos yr adduned mewn ystafelloedd cyfarfod i atgoffa pawb o’r hyn y maent wedi ymrwymo iddo ar gyfer y presennol a’r dyfodol.

Rydym yn ymwybodol bod llawer o Gynghorau eisoes wedi llofnodi’r ymrwymiad gwreiddiol. Gan nad oedd pob adran o’r ymrwyiad honno’n berthnasol i Gynghorau yng Nghymru, mae Un Llais Cymru wedi gwneud rhai addasiadau bach i sicrhau bod y ddogfen gyfan bellach yn berthnasol. Byddem yn gwerthfawrogi pe bai Cynghorau yn ystyried mabwysiadu’r fersiwn newydd hon ar gyfer Cynghorau yng Nghymru. Byddem yn eich annog yn gryf i gwblhau a llofnodi’r adduned ac i anfon copi o’r fersiwn wedi’i llofnodi atom fel y gallwn gadw cofrestr ganolog o’r cynghorau sydd wedi gwneud yr ymrwymiad pwysig hwn.

Dylech e-bostio copi o’r adduned wedi’i llofnodi at Wendi Patience: [email protected]


Yn gywir,

Lyn Cadwallader

Prif Weithredwr


Ffurflen Adduned Cwrteisi a Pharch