Nawr Ar Agor: Grantiau £500 i gynghorau sy'n cymryd y cam cyntaf - Un Llais Cymru
Mynd i'r cynnwys

Beth Allai Eich Cyngor Chi Wneud Gyda £500?

Annwyl Glerc / Aelod Cyngor,

Beth Allai Eich Cyngor Chi Wneud Gyda £500?

Boed yn ddod â phobl leol at ei gilydd, galluogi mwy o bobl i gael cefnogaeth neu eich helpu i ddeall anghenion lleol yn well.

Rydym yn falch iawn o lansio Cynllun Grantiau Bychain y Prosiect Argyfwng Costau Byw, sy’n cynnig grantiau penodedig o £500 i Gynghorau Cymuned a Thref a chanddynt incwm blynyddol o £25,000 neu lai sydd heb drefnu gweithgareddau cefnogi costau byw yn y gorffennol.

“Pwrpas yr arian yma yw helpu cynghorau i gymryd y cam cyntaf yna, a chafodd ei gynllunio’n bwrpasol ar gyfer hynny. Rydym yn gwybod, i gyngor llai, mai ceisio dod o hyd i swm bychan o arian hyd yn oed yw’r union beth all rwystro syniad da rhag mynd ymhellach.

Gwnewch Gais Ar-lein Yn Awr


Prif fanylion y grant:
Grant penodedig o £500 
60 grant ar gael ar draws Cymru 
Y cyntaf i’r felin gaiff falu 
Incwm blynyddol o £25,000 neu lai 

Ar gyfer beth ellid defnyddio’r arian?
Mentrau bwyd cymunedol 
Prosiectau llesiant a chysylltiadau cymdeithasol 
Gweithgareddau gwytnwch ariannol, cyngor, gweithgareddau tlodi tanwydd neu gynhwysiant digidol 
Gwaith partneriaeth a chydweithio 
Mentrau trafnidiaeth gymunedol 
Gweithgareddau ymgysylltu cymunedol ac ymgynghori

“Nid oes rhaid i gynghorau gael cyllidebau mawr na phrosiectau cymhleth i wneud gwahaniaeth. Weithiau, mae’r mentrau mwyaf llwyddiannus yn dechrau gyda syniad syml a swm bach o arian.”

I lawer o gynghorau, deall anghenion lleol yw’r cam cyntaf. Dyna pam y gellir defnyddio’r grant hefyd i ymgysylltu â phobl leol trwy arolygon, digwyddiadau ymgynghori neu sgyrsiau cymunedol sy’n helpu siapio gweithgareddau i’r dyfodol.


Mae’r cais yn fyr ac ni ddylai gymryd mwy na rhyw 20 munud i’w lenwi. Cyfeiriwch at a darllenwch Gynllun Grantiau Bach Un Llais Cymru: Canllaw i Gynghorau cyn dechrau eich cais
Os byddai’n well gennych lenwi’r ffurflen oddi-ar-lein, gallwch ofyn am fersiwn Word trwy ebostio [email protected] neu lawrlwytho copi yma. Gallwch wedyn ei ddanfon yn ôl atom yn yr un ffordd.

Gwnewch Gais Ar-lein Yn Awr

Cysylltwch
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cynllun, cofiwch gysylltu â ni [email protected]

Tîm Argyfwng Costau Byw
Un Llais Cymru