Rydym yn falch iawn o gyhoeddi y bydd Siân Gwenllian AS, Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, yn annerch cynrychiolwyr yng Nghynhadledd Arfer Arloesol flynyddol Un Llais Cymru ddydd Mercher 30 Medi 2026 ar Faes y Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd.

Bydd y Gweinidog Cabinet yn annerch y gynhadledd ar y pwnc ‘Blaenoriaethau ar gyfer sector Cynghorau Cymuned a Thref yn y cyfnod yn dilyn Etholiadau Cyffredinol 2027’.
Dyma’r Agenda derfynol.
Rydym yn ddiolchgar i Cloudy IT am fod yn brif noddwyr y Gynhadledd eleni.
I gofrestru cynrychiolwyr ar gyfer y digwyddiad hwn, ewch i’n tudalen Cynhadledd Arfer Arloesol.