Digwyddiad ar y Cyd 2026: SLCC ac Un Llais Cymru
Noder: Digwyddiad yn yr iaith Saesneg yn unig yw’r digwyddiad hwn.
Symud tuag at Etholiadau 2027
Ymunwch â ni ar gyfer cynhadledd rithwir ddiddorol ddydd Mercher 18 Tachwedd 2026, sydd wedi’i threfnu’n arbennig ar gyfer clercod, gweithwyr cynghorau lleol a chynghorwyr yng Nghymru, ac yn cael ei chynnal gan y Society of Local Council Clerks (SLCC) ac Un Llais Cymru.
Gyda’r thema amserol ‘Symud tuag at Etholiadau 2027’, bydd y digwyddiad hwn yn archwilio sut y gallwch ymdopi â heriau sy’n newid ym maes llywodraethu lleol.
Bydd y rhai sy’n bresennol yn clywed safbwyntiau gan Rob Smith, Prif Weithredwr SLCC, a Lyn Cadwallader, Prif Weithredwr Un Llais Cymru, yn ogystal ag elwa ar wybodaeth ymarferol o sesiynau hyfforddi ac arbenigol ar gyflogaeth, bioamrywiaeth a chynllunio, gan gynnwys diweddariadau gan Lywodraeth Cymru.
Peidiwch â cholli’r cyfle hwn i rwydweithio, dysgu a chryfhau eich rôl wrth lunio cymunedau gwydn a chynaliadwy. Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen cymorth arnoch gyda’r broses archebu, mae croeso i chi gysylltu â’r SLCC: [email protected] neu ewch i’w gwefan yma.