Tour de France 2027 i ymweld â Chymru - Un Llais Cymru
Mynd i'r cynnwys

Tour de France 2027 i ymweld â Chymru – 4 Gorffennaf 2027

Mae Cymru yn barod i groesawu’r Tour de France yn 2027, ar ôl i fanylion llawn y llwybr cyfan – gan gynnwys y cymal yng Nghymru o’r Trallwng i Gaerdydd – gael eu datgelu ym Mharis ar 22 Hydref 2026.

Bydd y Tour de France yn cyrraedd Cymru am y tro cyntaf ar 4 Gorffennaf 2027. Bydd y llwybr yn cynnwys wyth dringfa a chymal sbrint canolraddol ar yr A483, wrth iddo fynd i mewn i dref Llandrindod.

Mae map rhyngweithiol manwl o’r cymal yng Nghymru – sy’n dangos lleoliad y sbrint a’r wyth dringfa gategorïedig – bellach ar gael ar y dudalen bwrpasol ar gyfer y trydydd cymal.

Am ragor o wybodaeth, ewch i’r ddolen Croeso Cymru – Visit Wales.