Adroddiad Blynyddol Drafft ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2027-28
Mae’n bleser gennyf amgáu’r Adroddiad Blynyddol Drafft ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2027–28. Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu penderfyniadau arfaethedig y Comisiwn ar y tâl, treuliau a buddion aelodau etholedig a chyfetholedig ar draws prif gynghorau, cynghorau cymuned a thref, awdurdodau tân ac achub, ac awdurdodau parciau cenedlaethol Cymru.
Daw’r adroddiad drafft hwn ar bwynt pwysig, gan ei fod yn gosod lefelau tâl a fydd yn berthnasol i aelodau a fydd yn cael eu hethol yn etholiadau llywodraeth leol Mai 2027.
Mae’r meysydd allweddol yr ydym wedi’u hystyried fel rhan o’n trafodaethau ar gyfer yr adroddiad drafft hwn yn cynnwys:
- Y fframwaith tâl ar gyfer uwch rolau mewn prif gynghorau a chyd-bwyllgorau corfforaethol;
- Y fethodoleg ar gyfer uwchraddio blynyddol, gan gynnwys ystyried a yw’r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion yn parhau i fod y mesur mwyaf priodol;
- Ymgysylltu parhaus â rhanddeiliaid fel Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Un Llais Cymru.
Mae’r Comisiwn wedi cynnig bod y cyflog sylfaenol ar gyfer aelodau etholedig yn cynyddu i £21,676, yn unol â’r cynnydd yn y Mynegai Prisiau Defnyddwyr gan gynnwys costau tai perchen-feddianwyr. Y cynnydd yn y cyflog blynyddol sylfaenol yw 3%, ac rydym yn bwriadu cynnal y strwythur bandio presennol ar gyfer rolau uwch. Mae rhagor o fanylion, gan gynnwys lefelau cyflog a lwfansau penodol, wedi’u nodi yn yr adroddiad amgaeedig.
Mae’r drafft bellach ar agor i’w ymgynghori tan 17 Rhagfyr 2026, ac mae’r Comisiwn yn croesawu adborth gan yr holl randdeiliaid i lywio’r penderfyniadau terfynol, yr ydym yn bwriadu eu cyhoeddi erbyn diwedd mis Chwefror 2027.
Adroddiad blynyddol drafft ar gydnabyddiaeth ariannol 2027 – 2028
Am rhagor o wybodaeth, cysylltwch:
Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru
4ydd Lawr
Adeilad Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ