Gwobr Dewi Sant – Gwobr Genedlaethol Cymru 2027
Anogir Cynghorau Cymuned a Thref yng Nghymru i gyflwyno enwebiadau ar gyfer Gwobr Dewi Sant – Gwobr Genedlaethol Cymru – ar gyfer 2027.
O 2027 ymlaen, bydd Gwobrau Dewi Sant yn dod yn adnabyddus fel Gwobr Dewi Sant – Gwobr Genedlaethol Cymru ond byddant yn parhau i ddathlu cyflawniadau rhyfeddol unigolion, grwpiau a sefydliadau o bob cwr o’r wlad.
Mae’r Wobr yn cydnabod y rhai sy’n mynd y tu hwnt i’w cymunedau, eu gweithleoedd a’u meysydd arbenigedd, gan ysbrydoli eraill trwy eu penderfyniad, eu arloesedd a’u hymrwymiad, o hyrwyddwyr cymunedol a gwirfoddolwyr i arloeswyr busnes, gweision cyhoeddus, sêr chwaraeon ac arweinwyr diwylliannol, gan arddangos ehangder y dalent sydd i’w gael ym mhob cornel o Gymru.
Ystyriwch enwebu unrhyw berson neu grwpiau yn eich etholaethau a’ch rhanbarthau sy’n haeddu cydnabyddiaeth genedlaethol ac annog eraill i enwebu hefyd.
Mae enwebiadau’n cau am hanner nos ar 04 Rhagfyr 2026.
Mae rhagor o fanylion ar gael yma.