Un Llais Cymru yn Penodi Llywydd Anrhydeddus Newydd
Mae Un Llais Cymru yn falch iawn o gyhoeddi penodiad y Cynghorydd Mike Theodoulou fel Llywydd Anrhydeddus newydd y sefydliad.

Cytunwyd yn unfrydol ar y penodiad gan aelodau’r Pwyllgor Gweithredol Cenedlaethol yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Medi 2026 ar Faes y Sioe Frenhinol Cymru.
Yn ystod y cyfarfod, amlinellodd Lyn Cadwallader, Prif Weithredwr Un Llais Cymru, gefndir y swydd anrhydeddus o Lywydd Un Llais Cymru.
Ystyriodd aelodau’r Pwyllgor Gweithredol Cenedlaethol ddisgrifiad swydd ar gyfer y swydd anrhydeddus ynghyd â bywgraffiad o’r Cynghorydd Mike Theodoulou. Yn dilyn trafodaeth, cytunodd yr aelodau yn unfrydol i gynnig swydd Llywydd Anrhydeddus Un Llais Cymru i’r Cynghorydd Theodoulou, gyda’r penodiad yn dod i rym ar unwaith.
Derbyniodd y Cynghorydd Theodoulou y penodiad gyda diolch a mynegodd ei werthfawrogiad o’r hyder a ddangoswyd ynddo gan y Pwyllgor Gweithredol Cenedlaethol.
Mae pawb yn Un Llais Cymru yn llongyfarch y Cynghorydd Theodoulou ac yn edrych ymlaen at weithio gydag ef yn ei rôl newydd fel Llywydd Anrhydeddus.