Maniffesto Un Llais Cymru 2026-2031
Annwyl Gyfaill,
Heddiw, 5 Mawrth 2026, mae Un Llais Cymru yn lansio ei Maniffesto ar gyfer y sector Cynghorau Cymuned a Thref yng Nghymru cyn yr etholiad i’r Senedd ym mis Mai eleni.
Mae 731 o Gynghorau Cymuned a Thref yng Nghymru, sy’n cynrychioli’r haen hon o lywodraeth sydd agosaf at y bobl. Maent yn cwmpasu tua 94% o arwynebedd y tir a 70% o boblogaeth Cymru.
Cynghorau Cymuned a Thref yw’r rhan fwyaf lleol o’n democratiaeth ac maent yn chwarae rhan annatod yng ngweithrediad cymunedau yng Nghymru. Maent yn darparu llais democrataidd i’n cymdogaethau, pentrefi a threfi a strwythur ar gyfer gweithredu – pŵer pobl go iawn ar lawr gwlad.
Mae Un Llais Cymru yn adeiladu cymunedau cryfach i Gymru – ond mae angen mwy o ddemocratiaeth leol arnom gyda phobl a lleoedd mwy grymus. Rydym am weithio gyda Llywodraeth nesaf Cymru i wireddu’r weledigaeth hon – mae hwn yn gyfle delfrydol i ddangos eu hymrwymiad i weithredu dan arweiniad dinasyddion, sy’n amddiffyn asedau a gwasanaethau lleol ac yn darparu gwasanaethau ymatebol yn seiliedig ar flaenoriaethau lleol.
Rydym wedi nodi isod sut y gall gweithio gyda’r sector Cynghorau Cymuned a Thref helpu i fynd i’r afael â’r materion hollbwysig hyn a sut y gall y llywodraeth newydd gefnogi’r sector trwy gefnogi’r ‘5 Gofyniad’ canlynol:
1. Ymrwymo i fwrw ymlaen ag argymhellion Adroddiad Ymchwiliad y Senedd (Mawrth 2025) i rôl, llywodraethu ac atebolrwydd y sector Cynghorau Cymuned a Thref
2. Grymuso Cymunedau
3. Cyllido Amrywiol
4. Cryfhau Arweinyddiaeth Leol
5. Meithrin Capasiti a Gallu
Mae’r angen am weithredu yn nhymor nesaf y Senedd yn glir.
Gallwch ddarllen ein maniffesto yma; mae’n cynnwys amrywiaeth o syniadau polisi i ddatgloi pŵer a photensial cymunedau drwy helpu Cynghorau Cymuned a Thref i ffynnu wrth geisio bywydau gwell i’w trigolion – cyfle am drobwynt hanesyddol o fewn sector cynghorau cymuned a thref yn nhymor nesaf ein Senedd genedlaethol ar draws llawer o feysydd polisi thematig, o wydnwch cymunedol a chost byw i fioamrywiaeth a thrafnidiaeth gymunedol.
Rwy’n gobeithio’n fawr y byddwch yn cefnogi ein galwadau. Os hoffech drafod ein dogfen neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am unrhyw un o’n polisïau ac ymgynghoriadau, cysylltwch â ni.
Yn gywir,
Lyn Cadwallader
Prif Weithredwr